Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 5pm Dydd Gwener, 5 Mehefin 2026
Ymunwch â Norena Shopland ac Aberration, mewn cydweithrediad â Gwasg Parthian, wrth iddynt lansio cofiant newydd Norena ar y bardd Eingl-Gymreig Katherine Philips: My Love All Love Excels.
Mae Katherine yn nodedig am sawl peth – y fenyw gyntaf i gael drama wedi’i chynhyrchu’n fasnachol; bardd Rhyfel Cartref deunawfed ganrif o fri; rhywun a dorrodd reolau barddoniaeth; un o feirdd benywaidd nodedig cyntaf y byd; un o’r cyntaf i ysgrifennu am atyniad i’r un rhyw, mae’r rhestr yn mynd ymlaen.
Yn y digwyddiad yma, daw stori ryfeddol Katherine yn fyw drwy ddarlleniadau barddoniaeth, cerddoriaeth a sgyrsiau a fydd yn diddanu a syfrdanu, gan ddangos i ni pam y dylai Katherine Philips gael ei hystyried fel un o feirdd gorau Cymru.
Ar gyfer Mis Hanes LHDTC+ 2026, mae Aberration yn cyflwyno noson o lawenydd a pherfformiadau cwiar cyffrous wedi’u hysbrydoli gan arddangosfa Portread a Phŵer.
Jan Morris gan Michael Tomlinson; Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Noson wych yn yr oriel!
Mae ‘Off the Wall’ yn noson chwareus, hwyliog a chreadigol o ddathlu trwy berfformiad gair llafar gan Aberration i gynulleidfa LHDTC+ a’u cyfeillion. Wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Portread a Phwêr, bydd y portreadau’n dod yn fyw, a bydd y cwestiwn ‘Sut ydyn ni eisiau cael ein gweld?’ yn cael ei drafod.
Aberration: ‘Out of the Frame‘, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mis Gorffennaf 2025 (Anthony Pugh)
Nos Iau 12 Chwefror, Llyfrgell Genedlaethl Cymru: 6:30pm. Dod at ein gilydd am ddiodydd a thamaid i’w fwyta, yna fyny i Oriel Gregynog am 7pm ar gyfer sgyrsiau byr a pherfformiadau gan artistiaid a’n grŵp gweithdy, gyda portreadau-ar-y-pryd a mwy.
Gyda: Denver K Shai, Morgan Dowdall, Poppy Cock, Penny Comequick, ‘Queer Tales from Wales’, Kitty O’Blithering a mwy! 🎉
Bydd cyfle i edrych o gwmpas arddangosfa Portread a Phŵer ar y diwedd. Gorffen tua 9pm. Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf gyda pheth Cymraeg.
Dere fel rwyt TI wastad wedi dymuno cael dy weld – yn hunan-bortread byw. Dehongla hyn fel y mynnot; neu dere â gwrthrych sy’n bwysig i ti. (Croeso cynnes i’r rhai mwy swil hefyd!)
Dydd Sadwrn 31 Ionawr & Dydd Sadwrn 7 Chwefror 10:30am i 1:30pm: Dau weithdy ysbrydoledig ar gyfer oedolion LHDTC+ ble byddwn ni’n ymateb i’r arddangosfa bortreadau trwy eiriau a pherfformiad. Cliciwch i weld manylion ac i gofrestru >>
Am Aberration
Mae Aberration yn gyfres o ddigwyddiadau cyffrous gyda thema LHDTC+. Ein nod yw creu gofod cymunedol cyfeillgar. Mae croeso i bawb i’n digwyddiadau cyhoeddus, gan gynnwys ffrindiau a chynghreiriaid sydd â meddwl agored. (Mae rhai gweithdai grŵp llai yn benodol ar gyfer y rhai sydd / sy’n meddwl y gallent fod yn LHDTC+). Mae digwyddiadau’n gynhwysol iawn o ran trawsrywedd yn ogystal ag amlygu bywydau a diwylliant lesbiaidd, hoyw a deurywiol, a hunaniaethau cwiar eraill – i gyd o dan un enfys! Eich gwesteiwyr cyfeillgar yw Jane Hoy, Ruth Fowler a Helen Sandler. Ar gyfer Off the Wall mae’r ymarferydd creadigol talentog Cath Rigler yn ymuno â ni.
I nodi mis LHDTC+ 2026, mae Aberration yn eich gwahodd i fod yn rhan o grŵp meddylgar a llawen fydd yn creu darnau ysgrifennedig a pherfformiadau newydd gyda’i gilydd.
Yn y ddau weithdy cysylltiedig byddwn yn rhannu ein hymatebion i’r paentiadau a ffotograffau yn arddangosfa Portread a Phŵer.
Dau Ddydd Sadwrn: 31 Ionawr & 7 Chwefror 2026, 10:30am i 1:30pm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Mwy o wybodaeth
Mewn awyrgylch cefnogol a llawn annogaeth, byddwn yn creu darnau ysgrifennedig a pherfformiadau newydd gyda’n gilydd, a fydd yn rhan o’r rhaglen yn ein noson ‘Off the Wall’ fawreddog.
Bydd y gweithdai hyn ar gyfer pobl LHDTC+ yn cael eu hwyluso gan Helen Sandler a Jane Hoy o Aberration, a’r arbennigwr celf cymunedol Cath Rigler (sy’n perfformio fel Kitty O’Blitherin).
Yn y sesiwn gyntaf, byddwn yn ymweld ag arddangosfa Portread a Phŵer yn yr oriel ac yn trafod yr ymatebion i’r paentiadau a ffotograffau anhygoel sydd i’w gweld. Trwy ymarferion ysgrifennu byddwch yn gallu ymateb i bortread (neu bortreadau) sy’n arwyddocaol i chi fel aelod o’r gymunedLHDTC+.
Yn yr ail sesiwn, byddwn yn troi’r gwaith ysgrifennedig yn ddarnau i’w perfformio ar gyfer digwyddiad ‘Off the Wall’ (12 Chwefror). Bydd darnau unigol a rhai grŵp yn uno’n hudol. Does dim rhaid perfformio os nad ydych chi am wneud!
Helen a Cath mewn digwyddiad Aberration blaenorolJane a Cath yn y digwyddiad diwethaf yn Llyfrgell Genedlaethol
COFRESTRU
 diddordeb? Wedi cyffroi? Eisiau gofyn cwestiwn? E-bostiwch aberrationcymru@gmail.com gyda’r pwnc ‘Gweithdai ‘Off the Wall’’
Mae’r gweithdai AM DDIM (mae peth arian ar gael ar gyfer costau). Nifer gyfyngiedig o lefydd.
Mae ‘Pocedi o Falchder’ yn gyfres o dri gweithdy creadigol ar gyfer pobl sy’n perthyn i’r gymuned LHDTCRh+ lle byddwn yn dod ynghyd i roi ein stamp ein hunain ar byrsiau traddodiadol yr Eisteddfod.
Bagiau bach oedd y pyrsiau hyn – yn aml wedi’u haddurno’n gywrain – a roddid fel gwobr i enillwyr cystadlaethau’r Eisteddfod yn y gorffennol. Byddai’r enillwyr yn eu gwisgo’n falch trwy gydol wythnos yr ŵyl.
Yn ein sesiynau llawn hwyl, byddwch yn cael cymorth i wnïo, plygu a gludo bag, poced neu bwrs. Bydd gan bob un ohonynt ei ‘bwrsonoliaeth’ unigryw ei hun, gan adlewyrchu eich straeon chi!
Bydd creadigaethau’r grŵp yn rhan o’r arddangosfa LHDTCRh+ parhaol newydd yn Amgueddfa Ceredigion.
Pryd a ble mae’r gweithdai’n cael eu cynnal?
Ar gyfer Mis Hanes LHDTC 2026 ar dri dydd Sadwrn yn olynol:
21 Chwefror, 28 Chwefror a 7 Mawrth, rhwng 10.30am a 2.30pm.
Lleoliad: Y Bandstand, Aberystwyth (ar y Promenâd). Mae’r lleoliad yn hygyrch i bobl ag anableddau.
Ar gyfer pwy mae’r gweithdai ‘Pocedi o Falchder’?
Ar gyfer unrhyw un sy’n uniaethu fel rhan o’r gymuned LHDTCRh+ ac sy’n gallu ymrwymo i bob un o’r tri gweithdy creu pyrsiau. Nid oes angen profiad gwnïo na chrefft, a bydd yr holl ddeunyddiau yn cael eu darparu.
Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys lluniaeth ysgafn. Bydd cyfranogwyr yn derbyn taleb £50 (cerdyn rhodd aml-siop) bob wythnos i gydnabod eich cyfraniad.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a’r wyth person cyntaf i gofrestru bydd yn cael lle.
Sut ydw i’n archebu fy lle?
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth hon yn ofalus, yna anfonwch e-bost gyda’r pennawd ‘Pocedi o Falchder’ at Carrie: museum@ceredigion.gov.uk
Mae’n bryd rhoi stamp ein cymuned ar gasgliad yr amgueddfa – a gallwch chi fod yn rhan ohono!
Manylion y Gweithdai
SESIWN UN: 21 Chwefror
Beth sy’n bwysig i chi fel person cwiar?
Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio’r hyn sy’n bwysig i chi – y gwerthoedd, y straeon a’r hunaniaethau sy’n eich llunio chi fel person. Trwy ymarferion creadigol, byddwn yn dechrau archwilio’r syniadau a’r ystyron yr ydych am eu mynegi drwy’ch pwrs, poced neu fag bach eich hun, wedi’i greu â llaw.
Bydd curadur yr amgueddfa, Carrie Canham, yn ymuno â ni i roi cyd-destun y prosiect, sydd wedi’i ysbrydoli gan y pyrsiau hanesyddol yn y casgliad presennol. Bydd hi’n rhannu sut y bydd ein creadigaethau yn cyfrannu at yr arddangosfa LHDTCRh newydd.
SESIWN DAU: 28Chwefror
Gwnïo eich ffordd eich hun
Gan weithio gyda’n dwylo a’n calonnau; byddwn yn dewis defnyddiau ac edau, ac yn dechrau torri, gludo, cydosod a phwytho. Gydag arweiniad a chefnogaeth gan Rose a’r grŵp, byddwch yn dod â’ch dyluniad yn fyw.
SESIWN TRI: 7 Mawrth
Pwytho a gorffen
Gan ychwanegu’r cyffyrddiadau terfynol i gwblhau ein pocedi a’n pyrsiau, byddwn yn archwilio ffyrdd o’u harddangos fel rhan o’r arddangosfa yn Amgueddfa Ceredigion, gan ddathlu ein creadigrwydd cwiar. Gyda’n gilydd, byddwn yn myfyrio ar y broses ac yn ei dogfennu gyda ffotograffau a geiriau.
Pwy sy’n hyrwyddo’r gweithdai?
Mae Rose Thorn wedi gweithio fel artist cymunedol mewn lleoliadau iechyd ac addysg; mae’n frwdfrydig dros ddefnyddiau therapiwtig y celfyddydau gyda phobl sy’n aml yn teimlo eu bod wedi’u dadrymuso. Mae ei hymarfer creadigol ei hun wedi canolbwyntio ar decstilau.
Roedd ei chydweithrediad diweddaraf ag Amgueddfa Ceredigion gyda ‘Voices from the Edge’, grŵp o’r mwyafrif byd-eang a archwiliodd eu hymatebion i wrthrychau trefedigaethol a fenthycwyd gan Amgueddfa Prydain. Daeth y project i ben gydag arddangosfa grŵp, lle’r oedd ei gorchudd wedi’i wnïo â llaw, o’r enw ‘Wake’, yn archwilio symudiad pobl ar draws y moroedd.
Mae Rose hefyd yn berfformiwr a hyfforddwr Theatr Playback, sy’n anrhydeddu straeon personol drwy ‘adlewyrchu’ ar unwaith yr hyn a rennir gan y gynulleidfa. Mae ei diddordeb yn y corff, yr anadl a’r meddwl yn parhau gyda dosbarthiadau ioga lleol y mae hi’n eu dysgu.
Dan drefniant Amgueddfa Ceredigion mewn cydweithrediad ag Aberration
Cefnogir y Gweithdai hyn gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru
Y Tu Allan i’r Ffrâm – Ymatebion Cwiar i’r arddangosfa ‘Dim Celf Gymreig’ Ymunwch â ni ar gyfer taith arbennig o’r Oriel. Ar hyd y ffordd, bydd artistiaid ac awduron yn edrych ar y celf drwy lens LHDTQ+. Noson gyffrous a chreadigol wedi’i rhaglennu gan Aberration.
Gweithdy Ysgrifennu Creadigol 27/7/24 Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle a wnewch chi e-bostio os gwelwch yn dda post@academiheddwch.cymru
100 mlynedd yn ôl, llofnododd 390,296 o ferched Cymru ddeiseb heddwch. Pwy oedd y merched yma? Sut fywydau oedd ganddynt? Pa straeon sy’n cuddio tu ol i’r llofnodion? Hoffech chi ysgrifennu darn wedi ei ysbrydoli gan y merched?
Manylion
Apêl Menywod Cymru dros Heddwch 1923/24 Gweithdy Ysgrifennu Creadigol Geiriau Heddwch – am ddim!
Stafell Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth Dydd Sadwrn Gorffennaf 27, 11 yb – 3 yp
Darperir te a choffi a bydd Pendinas ar agor am luniaeth ysgafn.
Gyda Norena Shopland (Hanesydd Merched ac LGBTQ+) a Jane Hoy (Queer Tales from Wales ac Aberration). Fe’ch hwylusir i ysgrifennu darnau creadigol byr – cerddi, straeon neu fel arall -wedi eu hysbrydoli gan hanesion cudd y merched llofnododd Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923/24.
M.G. (Gladys) Thomas; Mary Elizabeth Ellis; Annie Jane Hughes-Griffiths; Elined Prys (Gwefan Llyfrgell Genedlaethol / National Library of Wales website)
Gallwch gyflwyno yn Gymraeg neu yn Saesneg. Gyda eich caniatâd, hoffai prosiect Hawlio Heddwch ystyried cynnwys unrhyw ddarnau terfynol yng nghasgliad gwaith creadigol prosiect y Ddeiseb.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle a wnewch chi e-bostio os gwelwch yn dda post@academiheddwch.cymru
Mae’r perfformiwr arloesol Tom Marshman yn cyflwyno hanesion poenus, hardd ac hynod doniol o’i ddarn theatr newydd yn seiliedig ar Adran 28 (y ddeddf 1988 ddrwgenwog a waharddodd ysgolion a chynghorau rhag ‘hyrwyddo cyfunrywiaeth’).
TomJane a NorenaAlessandro
Mae’r hanesydd Norena Shopland a Jane Hoy o Aberration yn siarad am fywyd Katherine Philips, y farddones o’r ail ganrif ar bymtheg a adnabyddir fel y Sappho Gymreig (erbyn hyn yn fenyw poster Bywydau Dwbl!).
Mae’r archeolegydd Alessandro Ceccarelli yn dangos sut y gall eitemau mewn casgliadau Cymreig daflu goleuni ar ddyhead, serch ac hunaniaeth LHDTC+.
Alis‘A Bitter Remedy’Helen
Mae’r awduresr Alis Hawkins yn siarad am ei nofel drosedd newydd afaelgar A Bitter Remedy gyda’n cyflwynydd Helen Sandler.
Hefyd ceir stondin lyfrau gan Lyfrau Gayberystwyth, a raffl ar gyfer AllOut.
‘Y noson orau o’i math yn Aberystwyth’ – Alys Fowler yn y Guardian
Aberration presents ‘Ceredigion Cwiar’ (‘Queer Ceredigion’) in Welsh at the National Eisteddfod Ceredigion: Tregaron, Friday 5 August 2022. 6.30pm. Maes D (Learners’ Tent)
With stories of the Lost Knitters of Tregaron, answers to your problems from the poet Cranogwen (played by Ruth Fowler, pictured), new short film of queer rural voices (dir. Amy Daniel), and live music from hip-hop / punk / folk duo Mermerings. Compered by writer and broadcaster Mike Parker. See you there!
FORGOTTEN STARS ~ Aberration, Saturday 8 February 2020 / Dydd Sadwrn 8 Chwefror 2020
Scroll down for details in English (pink) and Cymraeg (melyn). Digwyddiadau yn Saesneg yn bennaf / Events mostly in English.
SARAH JANE REES (‘Cranogwen’, 1839 – 1916) bardd, golygydd, a sefydlydd ‘Merched y De’ // poet, navigator, schoolteacher, editor
1.30 to 3.30pm [SOLD OUT] LGBT+ History Walk around Aberystwyth. Meet at Ceredigion Museum where your guide, Jane Hoy of Living Histories Cymru, will take you on a tour round Aberystwyth meeting LGBT+ characters from the past, from Sarah Jane Rees to Goronwy Rees. Expect the unexpected! All welcome. (Indoors at museum if too wet or windy.) Limited to 20 places. SOLD OUT.
1.30-3.30 yh [WEDI GWERTHU ALLAN]Taith Gerdded yn olrhain hanes pobl LGBTQ Aberystwyth. Fel rhan o ddathliadau mis dathlu Hanes LGBT, ymunwch â ‘Hanesion Byw Cymru’ ar daith gerdded o amgylch Aberystwyth a dewch i gyfarfod â rhai o bobl LBGT mwyaf dylanwadol hanes y dref, pobl sydd bron wedi mynd yn angof. Man cyfarfod – Amgueddfa Ceredigion. WEDI GWERTHU ALLAN.
Yasmin Begum
4.30 to 6pm Workshop at Aberystwyth Arts Centre: Yasmin Begum is a writer, artist and activist from Cardiff. As a member of the 1919 Race Riots collective she will run a zine-making workshop delving into exciting ideas of Welsh identity, language, history and cultural memory with an emphasis on inclusivity and accessibility. (Zines are creative / lo-fi magazines or booklets.) Meet at Box Office at 4.20pm to go to Creative Studios 5&6 (silver pod). £5 / £3. WORKSHOP TICKETS>>
4.30-6 yh Gweithdy: Mae Yasmin Begum yn ysgrifennwr, artist ac actifydd o Gaerdydd. Bydd hi’n cynnal gweithdy gwneud zine, gan ymchwilio a syniadau cyffrous o hunaniaeth Gymreig, iaith, hanes a chof diwylliannol gyda phwyslais ar gynwysoldeb a hygyrchedd. (Mae zines yn gylchgronau neu lyfrynnau creadigol/lo-fi.) Cwrdd yn y Swyddfa docynnau am 4.20 yh i fynd i stiwdios creadigol 5 i 6 (pod arian). £5/£3. TOCYNNAU>>
GYDA’R NOS / EVENING
Alison Child (R) and Rosie Wakley
7.45pm Aberration presents: ‘Forgotten Stars’ evening at Aberystwyth Arts Centre (Studio) [Cymraeg isod] Lively talks, songs and stories of LGBT+ history. TICKETS£10 / £8 (concs).
In a special presentation, Yasmin Begum (who is also leading a workshop, above) will use the lens of the 1919 race riots to shine a light on black and minority ethnic communities and queer people of colour in Wales. With film clips and discussion.
Alison Child will talk about the research for her new biography ‘Tell Me I’m Forgiven’, about the once-famous music hall duo (and romantic pairing) Gwen Farrar and Norah Blaney. Ali and her partner Rosie Wakley will treat us to some of the songs that Gwen and Norah used to sing. Plus storytelling by Queer Tales from Wales: coppermine girls, women wrestlers and men in pink houses. BUY TICKETS NOW>>
7.45 yhAberration yn cyflwyno: ‘Forgotten Stars’ yn Canolfan Y Celfyddydau (Stiwdio): sgyrsiau bywiog, caneuon a straeon o hanes LHDT. Tocynnau £10/£8.
Mewn cyflwyniad arbennig, bydd Yasmin Begum yn defnyddio lens terfysgoedd ras 1919 i ddisgleirio golau ar gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl queer o liw yng Nghymru.
Bydd Alison Child yn siarad am yr ymchwil ar gyfer ei Bywgraffiad newydd ‘ Tell Me I’m Forgiven’, am y ddeuawd neuadd gerddorol a fu’n enwog ar un adeg (a’r pâr rhamantaidd) Gwen Farrar a Norah Blaney. Bydd Ali a’i phartner Rosie Wakley yn ein trin ni i rai o’r caneuon y mae Gwen a Norah yn canu. Ynghyd ag adrodd straeon gan Queer Tales o Gymru: merched copr, ymgodymwyr menywod a dynion mewn tai pinc. TOCYNNAU>>
+ Charity RAFFLE (bring a prize if you can!), guest appearance from friend of Aberration NORENA SHOPLAND with her latest queer history book, PLANET magazine on sale, and COMMUNITY COHESION stall.
+ Raffl, awdur Norena Shopland, Stondinau Cylchgrawn Planet a ‘Community Cohesion’.
{Scroll down for English} Dathlwch Ddiwrnod Menywod Rhyngwladol! Darganfyddwch 100 o fenywod anhygoel o’r gorffennol a’r presennol sydd wedi gweithio dros gydraddoldeb yng Nghymru. Gyda sgyrsiau (Dinah Mulholland, Megan Talbot a mwy), barddoniaeth (Gillian Clarke) a cherddoriaeth fyw (Cerys Hafana – telyn). Croeso i bawb. Iaith: Saesneg
Aberration, WEN Wales (Women’s Equality Network) and Aberystwyth University bring you this special evening to celebrate International Women’s Day.
‘100 Welsh Women’ will include music, poetry and discussion:
Poetry: Gillian Clarke, former National Poet of Wales, will read her lyrical and moving poems. If you have never heard Gillian read, you are in for a mesmerising treat. If you have heard her before, then you know you will want to be here for this! Gillian has been awarded the Queen’s Gold Medal for Poetry and the Wilfred Owen Award. Selected Poems (Picador) was published in 2016, Zoology (Carcanet) in 2017, and her version/ translation of the 7th century Welsh poem Y Gododdin, appears this year from Faber.
Dinah Mulholland
Chisomo Phiri
Helen Sandler
Speakers: Dinah Mulholland (left), Chisomo Phiri (centre) and Megan Talbot will form a knowledgeable and rousing panel, chaired by our own Helen Sandler (right).
Dinah is a political activist who has campaigned around domestic abuse, women in prison and austerity. Dinah was the Labour Party candidate for Ceredigion in the 2017 General Election and is involved in setting up a local branch of Acorn Tenants Union.
Chisomo is the NUS Wales Women’s Officer. She was elected on a manifesto of campaigning to end period poverty, encouraging women to run for leadership, and tackling sexual harassment. She aims to create a strong, intersectional movement.
Megan is an associate lecturer in law at Aberystwyth University and is studying legal recognition of non-binary genders internationally. She is co-convener in the Aberystwyth Interdisciplinary Gender Studies Research Group (aber gender).
Helen is a writer and editor who runs Tollington Press and comperes Aberration. She has been involved in theatre and events for women and LGBT+ people for many years.
Live music: Musical interludes from Cerys Hafana (pictured, top) on the Welsh triple harp. Cerys is a talented young musician who lives locally. She is a member of the National Youth Folk Ensemble, and last year played at the Festival Interceltique de Lorient with Tŷ Teires and Robin Huw Bowen, and on the Aran Islands with Cerrig Camu. She will play her own compositions and tell us a little about the history of the instrument.
Bright Field
Bright Field sing folk harmonies such as Georgian, Corsican, Shape Note, British traditional and sacred music, as well as modern compositions. They enjoy the way voices will lock into or lean on one another. The group has changed its make-up over the years, but local singers Linda Gwillim and Joan Mills, who join us for the evening, have been a part of Bright Field since it began back in 2001.
Exhibition: on display will be WEN’s exhibition of posters of significant and inspiring women, past and present, who have worked for equality in Wales – including Gillian Clarke. We will pick out some of these women with readings chosen specially.
Inclusive fabulousness: All welcome at this inspiring evening. Whether you identify as female, male or non-binary, whether you are trans, intersex, queer, lesbian, gay, bi, straight, unsure or wotever… you are very welcome at all Aberration events.