Gweithdy Geiriau Heddwch 27/7/24

English >>
Gweithdy Ysgrifennu Creadigol 27/7/24 Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle a wnewch chi e-bostio os gwelwch yn dda post@academiheddwch.cymru

100 mlynedd yn ôl, llofnododd 390,296 o ferched Cymru ddeiseb heddwch. Pwy oedd y merched yma? Sut fywydau oedd ganddynt? Pa straeon sy’n cuddio tu ol i’r llofnodion? Hoffech chi ysgrifennu darn wedi ei ysbrydoli gan y merched?

Manylion

Apêl Menywod Cymru dros Heddwch 1923/24
Gweithdy Ysgrifennu Creadigol Geiriau Heddwch – am ddim!

Stafell Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Dydd Sadwrn Gorffennaf 27, 11 yb  – 3 yp

Darperir te a choffi a bydd Pendinas ar agor am luniaeth ysgafn.

Gyda Norena Shopland (Hanesydd Merched ac LGBTQ+) a Jane Hoy (Queer Tales from Wales ac Aberration). Fe’ch hwylusir i ysgrifennu darnau creadigol byr – cerddi, straeon neu fel arall -wedi eu hysbrydoli gan hanesion cudd y merched llofnododd Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923/24.

Four women with petition
M.G. (Gladys) Thomas; Mary Elizabeth Ellis; Annie Jane Hughes-Griffiths; Elined Prys
(Gwefan Llyfrgell Genedlaethol / National Library of Wales website)

Gallwch gyflwyno yn Gymraeg neu yn Saesneg. Gyda eich caniatâd, hoffai prosiect Hawlio Heddwch ystyried cynnwys unrhyw ddarnau terfynol yng nghasgliad gwaith creadigol prosiect y Ddeiseb. 

Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle a wnewch chi e-bostio os gwelwch yn dda post@academiheddwch.cymru