Aberration Mai 2015 RHAGLEN

Aberration yn cyflwyno:

Hoyw Heddiw // Gay Today

>>English here>>

Nos Sadwrn, Mai’r 9fed, 7yh (am 7.30)
Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol,
Prifysgol Aberystwyth, Campŵs Penglais
£7 y tocyn gyda gwydraid o win

>>Prynwch tocynnau>>
Aberration, 1st feb Aberystwyth Arts Centre. Photo by Daryl Ras Gdalya Jemmott

Beth yw profiad LGBT yng Nghymru
heddiw (a thu hwnt)?
Noswaith llawn trafodaeth,
darlleniadau a cherddoriaeth fyw

7yh Diodydd

7.30yh Cyflwyniad gan Dr Jenny Mathers, pennaeth yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac arbenigydd mewn materion hawliau dynol Rwsieg, gan gynnwys Pussy Riot a’r gyfraith gwrth-hoywon.

7.45yh Trafodaeth yn ymwneud â’r profiad o fod yn LGBT yng Nghymru, gyda’n panel campus:

Jaci Taylor, maer lesbiaidd cyntaf y DU i benodi ei phartner yn faeres (Aberystwyth, 2000).

Gareth Lloyd Roberts, cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, cyn-gynhyrchydd Canolfan Mileniwm Cymru.

Paddy O’Malley, cydolygydd a sylfaenydd cylchgrawn The Aberystwyth EGO ac aelod o’r grŵp, Sgarmes.

Cadeirydd – Elisa Haf, yn frodorol o Aber a chanddi radd meistr mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a diddordeb mewn ffeministiaeth o’r adain chwith.

Mae pob un o’r siaradwyr yn medru’r Gymraeg ac fe gynhelir y drafodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg gydag adnoddau cyfieithu ar y pryd ar gael. Dilynir gan sesiwn holi – cyfle i chi holi eich cwestiynau chi i’r panel.

8.45yh Toriad

9yh Trafodaeth a darlleniad gan Richard Margraff Turley o’i lyfr newydd, The Cunning House. Mae’r llyfr yn ymwneud â’r rhagfarnau homoffobaidd tuag at y diwylliant hoyw yn Llundain y rhaglywiaeth a’r ymosodiad ar The White Swan ‘molly house’.

9.15yh Cerddoriaeth amlieithog gyda’r crwniwr o Fachynlleth, Nicola Burgess a’i band.

10yh Diwedd – dewch am ddiod ym mar y Canolfan Celfyddydau ac i drafod themâu’r noswaith.

Amcangyfrif yw’r rhaglen. Gall yr amserlen newid yn ôl rhediad y noswaith.

Cyflwynir Aberration i chi gan Enfys Aber (Rhwydwaith Staff LGBT Prifysgol Aberystwyth) a SpringOut (digwyddiadau celfyddydol i fenywod, pobol LGBT a’u ffrindiau).

>>Prynwch tocynnau ar-lein>>

>>Ymunwch â’r digwyddiad Facebook>>

>>Gwelwch lluniau o’r Aberration diwethaf>>