Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018, Aberystwyth

Ymlaen Gyda’n Gilydd

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018
8 Mawrth 2018
Amgueddfa Ceredigion, Ffordd y Môr, Aberystwyth
Drysau’n agor am 6.30yp

[English>>]

Cymraeg: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Bydd Amgueddfa Ceredigion yn cyflwyno noswaith ddifyr o sgwrsio a thrafod, a cherddoriaeth gan y Bung Bung Belles.

Bydd panel amrywiol o fenywod lleol sy’n ymgyrchwyr yn siarad am sut allwn ni weithio i greu byd mwy cyfartal. Cewch daith dywys o amgylch yr amgueddfa cyn i bopeth ddechrau, ac yn y diwedd bydd cyfle i’r gynulleidfa ymuno yn y drafodaeth. Mae’n argoeli i fod yn noson llawn ysbrydoliaeth. Croeso i bawb. Trefnwyd mewn partneriaeth ag Aberration.

Y Cadeirydd: Joanne Hopkins
Y Panel: Amal Abu-Bakare, Andrea Hammel, Kate Rose, Michelle Pooley

£6 Gostyngiadau: £5