Lansio llyfr – Cofiant Katherine Philips

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 5pm Dydd Gwener, 5 Mehefin 2026

Ymunwch â Norena Shopland ac Aberration, mewn cydweithrediad â Gwasg Parthian, wrth iddynt lansio cofiant newydd Norena ar y bardd Eingl-Gymreig Katherine Philips: My Love All Love Excels.

Mae Katherine yn nodedig am sawl peth – y fenyw gyntaf i gael drama wedi’i chynhyrchu’n fasnachol; bardd Rhyfel Cartref deunawfed ganrif o fri; rhywun a dorrodd reolau barddoniaeth; un o feirdd benywaidd nodedig cyntaf y byd; un o’r cyntaf i ysgrifennu am atyniad i’r un rhyw, mae’r rhestr yn mynd ymlaen.

Yn y digwyddiad yma, daw stori ryfeddol Katherine yn fyw drwy ddarlleniadau barddoniaeth, cerddoriaeth a sgyrsiau a fydd yn diddanu a syfrdanu, gan ddangos i ni pam y dylai Katherine Philips gael ei hystyried fel un o feirdd gorau Cymru.

Am Ddim. Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg.

Tocynnau >>

—-