RYDYM YN CREU FFILM!!
{English version>>}
Rydym yn galw ar holl actorion, cyfarwyddwyr, pobl camera, ysgrifenwyr sgript, technegwyr sain ac unrhwyun sydd am godi ymwybyddiaeth am y problemau sy’n wynebu pobl LDHT.
Mae Aberration wedi ymfalchïo o gael eu dewis fel un o’r grwpiau a fyddai’n cydweithio gyda’r tîm profiadol o Iris yn y Gymuned er mwyn creu ffilm fer sy’n cynnwys cefnogwyr Abberation. Os nad ydych wedi clywed son am y prosiectau o’r blaen, caiff Iris yn y Gymuned ei ariannu er mwyn cydweithio â chymunedau yng Ngymru i godi ymwybyddiaeth o’r matterion mae pobl LHDT yn eu gwynebu gan alluogi pobl i ddatblygu sgiliau yn niwydiant y cyfryngau.
Mae Iris yn y Gymuned yn gyfle gwych a hwylus er mwyn creu ffilm fer ein hunain sy’n dangos cefnogwyr Abberation mewn ffordd gwbwl newydd. Yn ogystal, mi fydd Tîm Iris yn cydweithio gyda chi er mwyn dethol ffilmiau o Archif Gywl Gwobrau Iris a chyflwyno gwyl ffilimiau ein hunain (gan gynwys premier ein ffilm ni) i gynulleidfa o gefnogwyr, gwestau a ffrindiau.
Rydym yn lansio’r prosiect hon yn ystod Mis Hanesyddol LHDT gyda’r teitl: Creu Hanes Ni Ein Hunain. Mae croeso i wahanol syniadau.
Os hoffech fod yn rhan o’r prosiect, mae’n hanfodol eich bod ar gael ar gyfer y dyddiadau canlynol.
Lleoliad: Prifysgol Aberystwyth
Dydd Sul, 25ain o Chwefror, 10:00 – 16:00
Dydd Sadwrn, 24ain o Fawrth, trwy’r dydd, mi fydd oriau yn cael eu penodi
Mi fydd te a choffi ar gael, dewch a chinio eich hunain.
Nid yw’n bosib cymryd rhan am ran o’r prosiect gan ei bod hi’n hanfodol i weithredu fel tîm cyflawn, lle mae pob unigolyn yn hanfodol.
Mi fydd y cyfarfod cyntaf gyda Thîm Iris ar y 25ain o Chwefror yn penodi cysyniad y ffilm fer ac felly rydym yn chwilio am unigolion creadigol i ymuno a chyflwyno syniadau er mwyn helpu ysgrifennu’r stori. Mi fydd hyn yn cael ei gyflawni o fewn rhwng 5 a 6 awr gan gynnwys egwyl ar gyfer cinio. Ar y 24ain o Fawrth mi fyddom yn symud ymlaen i ffilmio’r cysyniad.
Os rydych am fod yn rhan o gynllunio ein Gŵyl Gwobr Iris Bychain a dethol o archif Gwobr Iris, dewch a mynychu cyfarfod rhaglennu ar y 18fed o Ebrill gyda’r hwyr. Y dyddiad darpariaeth ar gyfer y Gŵyl Gwobr Iris Bychain yw Dydd Gwener y 18fed o Fai.
Cysylltwch â Jane Hoy cyn gynted â phosib er mwyn cadw lle neu am fwy o fanylion: janehoy99[at]gmail.com