Bwystfilod Aflan 16/10/24

ENGLISH >>

Nos Fercher 16 Hydref 2024, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ~ Music Theatre Wales mewn cydweithrediad ag Aberration yn cyflwyno:

Bwystfilod Aflan / Unclean Beasts
+ The Land of Might Have Been

Perfformiadau newydd i ddathlu canmlwyddiant Edward Prosser Rhys yn ennill Coron yr Eisteddfod ym 1924 – a’r adlach yn erbyn ei gerdd, ‘Atgof’, a ddarluniai ddyhead am fenywod a gwrywod fel ei gilydd.

Tocynnau >>
Dewiswch 'Aelod Aberration' am ddisgownt!

Cyflwynir y noson mewn dwy ran (gydag egwyl) ac ar draws dau leoliad:

6.30pm – 7.30pm, Neuadd Fawr – The Land of Might Have Been

Cyflwynir gan Aberration, cwmni celfyddydau LGBTQ+ Canolbarth Cymru. Agorwch ddrysau drych ein cwpwrdd coctels i gael eich ysgwyd a’ch cynhyrfu wrth i ni fynd i mewn i’r Land of Might Have Been rhyfeddol. Dyma’r 1920au: cyfnod o wrthdroadau ac androgynedd, fflyrtio a phosibiliadau diddiwedd. Pa ddoethineb y gallai ein hynafiaid Cymreig cwiar ei drosglwyddo i Edward Prosser Rhys a’i gylch agos o ffrindiau? Mae’r atebion yn dod i’r amlwg trwy eiriau, cerddoriaeth ac ychydig o syllu ar sêr.

Perfformir yn bennaf yn Saesneg.

8pm – 9pm, Theatr y Werin- Bwystfilod Aflan / Unclean Beasts

Gyda Music Theatre Wales yn cyflwyno, mae Bwystfilod Aflan / Unclean Beasts yn herio normau cymdeithasol trwy opera, dawns a ffilm, gan amlygu’r gwrthdaro rhwng traddodiad a’r angen am newid. Mae Eddie Ladd yn cynnig ei dehongliad ei hun a’i myfyrdod personol ar y gerdd wreiddiol mewn symudiad, gyda monolog operatig newydd gan Conor Mitchell yn dilyn, a berfformir gan y tenor Elgan Llŷr Thomas. Wedi’i greu a’i gyfarwyddo gan Jac Ifan Moore, dyma gomisiwn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Music Theatre Wales a Chanolfan Gerdd Prifysgol Aberystwyth, a berfformir gyda Sinfonia Cymru.

‘Perl fach o sioe’ – BARN

Perfformir yn y Gymraeg gyda chapsiynau yn Saesneg.

Archebwch eich tocynnau nawr >>