24 Chwefror 2024, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Stiwdio Perfformio

**WEDI GWERTHU ALLAN!**
Mae Aberration yn dathlu Mis Hanes LHDTC+ gyda ‘Bywydau Dwbl’ / ‘Double Lives’ – noson gyfareddol o siaradwyr a pherfformiadau. Croeso i bawb.
Lleoliad>>
Mae’r perfformiwr arloesol Tom Marshman yn cyflwyno hanesion poenus, hardd ac hynod doniol o’i ddarn theatr newydd yn seiliedig ar Adran 28 (y ddeddf 1988 ddrwgenwog a waharddodd ysgolion a chynghorau rhag ‘hyrwyddo cyfunrywiaeth’).



Mae’r hanesydd Norena Shopland a Jane Hoy o Aberration yn siarad am fywyd Katherine Philips, y farddones o’r ail ganrif ar bymtheg a adnabyddir fel y Sappho Gymreig (erbyn hyn yn fenyw poster Bywydau Dwbl!).
Mae’r archeolegydd Alessandro Ceccarelli yn dangos sut y gall eitemau mewn casgliadau Cymreig daflu goleuni ar ddyhead, serch ac hunaniaeth LHDTC+.



Mae’r awduresr Alis Hawkins yn siarad am ei nofel drosedd newydd afaelgar A Bitter Remedy gyda’n cyflwynydd Helen Sandler.
Hefyd ceir stondin lyfrau gan Lyfrau Gayberystwyth, a raffl ar gyfer AllOut.
‘Y noson orau o’i math yn Aberystwyth’ – Alys Fowler yn y Guardian
Iaith: Saesneg
Cefnogir yn hael gan Brifysgol Aberystwyth
