Oddi ar y Wal

Oddi ar y Wal / ‘Off the Wall’: Sioe Fawr Aberration

Dydd Iau, 12 Chwefror 2026, diodydd am 6:30pm cyn i’r sioe ddechrau am 7pm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

English>>

Ar gyfer Mis Hanes LHDTC+ 2026, mae Aberration yn cyflwyno noson o lawenydd a pherfformiadau cwiar cyffrous wedi’u hysbrydoli gan arddangosfa Portread a Phŵer.
Jan Morris portrait by Michael Tomlinson; Llyfrgell Genedlaethol Cymru / National Library of Wales
Jan Morris gan Michael Tomlinson; Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Noson wych yn yr oriel!

Mae ‘Off the Wall’ yn noson chwareus, hwyliog a chreadigol o ddathlu trwy berfformiad gair llafar gan Aberration i gynulleidfa LHDTC+ a’u cyfeillion. Wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Portread a Phwêr, bydd y portreadau’n dod yn fyw, a bydd y cwestiwn ‘Sut ydyn ni eisiau cael ein gweld?’ yn cael ei drafod.

Aberration: ‘Out of the Frame‘, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mis Gorffennaf 2025 (Anthony Pugh)

Nos Iau 12 Chwefror, Llyfrgell Genedlaethl Cymru: 6:30pm. Dod at ein gilydd am ddiodydd a thamaid i’w fwyta, yna fyny i Oriel Gregynog am 7pm ar gyfer sgyrsiau byr a pherfformiadau gan artistiaid a’n grŵp gweithdy, gyda portreadau-ar-y-pryd a mwy.

Gyda: Denver K Shai, Morgan Dowdall, Poppy Cock, Penny Comequick, ‘Queer Tales from Wales’, Kitty O’Blithering a mwy! 🎉

Bydd cyfle i edrych o gwmpas arddangosfa Portread a Phŵer ar y diwedd. Gorffen tua 9pm. Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf gyda pheth Cymraeg.

Dere fel rwyt TI wastad wedi dymuno cael dy weld – yn hunan-bortread byw. Dehongla hyn fel y mynnot; neu dere â gwrthrych sy’n bwysig i ti. (Croeso cynnes i’r rhai mwy swil hefyd!)

Tocynnau £5 >>

Gweithdai ‘Off the Wall’

Dydd Sadwrn 31 Ionawr & Dydd Sadwrn 7 Chwefror 10:30am i 1:30pm: Dau weithdy ysbrydoledig ar gyfer oedolion LHDTC+ ble byddwn ni’n ymateb i’r arddangosfa bortreadau trwy eiriau a pherfformiad. Cliciwch i weld manylion ac i gofrestru >>

Am Aberration

Mae Aberration yn gyfres o ddigwyddiadau cyffrous gyda thema LHDTC+. Ein nod yw creu gofod cymunedol cyfeillgar. Mae croeso i bawb i’n digwyddiadau cyhoeddus, gan gynnwys ffrindiau a chynghreiriaid sydd â meddwl agored. (Mae rhai gweithdai grŵp llai yn benodol ar gyfer y rhai sydd / sy’n meddwl y gallent fod yn LHDTC+). Mae digwyddiadau’n gynhwysol iawn o ran trawsrywedd yn ogystal ag amlygu bywydau a diwylliant lesbiaidd, hoyw a deurywiol, a hunaniaethau cwiar eraill – i gyd o dan un enfys! Eich gwesteiwyr cyfeillgar yw Jane Hoy, Ruth Fowler a Helen Sandler. Ar gyfer Off the Wall mae’r ymarferydd creadigol talentog Cath Rigler yn ymuno â ni.

DEWCH I YMUNO Â NI!

===