Gweithdai ‘Off the Wall’

Gweithdai ysgrifennu a pherfformio ‘Off the Wall’ gan Aberration

Saesneg / English >>

Wedi’i archebu’n llawn!

I nodi mis LHDTC+ 2026, mae Aberration yn eich gwahodd i fod yn rhan o grŵp meddylgar a llawen fydd yn creu darnau ysgrifennedig a pherfformiadau newydd gyda’i gilydd.

Yn y ddau weithdy cysylltiedig byddwn yn rhannu ein hymatebion i’r paentiadau a ffotograffau yn arddangosfa Portread a Phŵer.

Dau Ddydd Sadwrn: 31 Ionawr & 7 Chwefror 2026, 10:30am i 1:30pm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Mwy o wybodaeth

Mewn awyrgylch cefnogol a llawn annogaeth, byddwn yn creu darnau ysgrifennedig a pherfformiadau newydd gyda’n gilydd, a fydd yn rhan o’r rhaglen yn ein noson ‘Off the Wall’ fawreddog.

Bydd y gweithdai hyn ar gyfer pobl LHDTC+ yn cael eu hwyluso gan Helen Sandler a Jane Hoy o Aberration, a’r arbennigwr celf cymunedol Cath Rigler (sy’n perfformio fel Kitty O’Blitherin).

Yn y sesiwn gyntaf, byddwn yn ymweld ag arddangosfa Portread a Phŵer yn yr oriel ac yn trafod yr ymatebion i’r paentiadau a ffotograffau anhygoel sydd i’w gweld. Trwy ymarferion ysgrifennu byddwch yn gallu ymateb i bortread (neu bortreadau) sy’n arwyddocaol i chi fel aelod o’r gymunedLHDTC+.

Yn yr ail sesiwn, byddwn yn troi’r gwaith ysgrifennedig yn ddarnau i’w perfformio ar gyfer digwyddiad ‘Off the Wall’ (12 Chwefror). Bydd darnau unigol a rhai grŵp yn uno’n hudol. Does dim rhaid perfformio os nad ydych chi am wneud!

COFRESTRU

 diddordeb? Wedi cyffroi? Eisiau gofyn cwestiwn? E-bostiwch aberrationcymru@gmail.com gyda’r pwnc ‘Gweithdai ‘Off the Wall’’

Mae’r gweithdai AM DDIM (mae peth arian ar gael ar gyfer costau). Nifer gyfyngiedig o lefydd.

Noson ‘Off the Wall’ >>

Digwyddiadau yn Saesneg yn bennaf.

===