Pocedi o Falchder

Mae Amgueddfa Ceredigion ac Aberration yn cyflwyno:

Pocedi o Falchder / Pockets of Pride

English>>


Mae ‘Pocedi o Falchder’ yn gyfres o dri gweithdy creadigol ar gyfer pobl sy’n perthyn i’r gymuned LHDTCRh+ lle byddwn yn dod ynghyd i roi ein stamp ein hunain ar byrsiau traddodiadol yr Eisteddfod.

Bagiau bach oedd y pyrsiau hyn – yn aml wedi’u haddurno’n gywrain – a roddid fel gwobr i enillwyr cystadlaethau’r Eisteddfod yn y gorffennol. Byddai’r enillwyr yn eu gwisgo’n falch trwy gydol wythnos yr ŵyl.

Yn ein sesiynau llawn hwyl, byddwch yn cael cymorth i wnïo, plygu a gludo bag, poced neu bwrs. Bydd gan bob un ohonynt ei ‘bwrsonoliaeth’ unigryw ei hun, gan adlewyrchu eich straeon chi!

Bydd creadigaethau’r grŵp yn rhan o’r arddangosfa LHDTCRh+ parhaol newydd yn Amgueddfa Ceredigion.

Pryd a ble mae’r gweithdai’n cael eu cynnal?

Ar gyfer Mis Hanes LHDTC 2026 ar dri dydd Sadwrn yn olynol:

21 Chwefror, 28 Chwefror a 7 Mawrth, rhwng 10.30am a 2.30pm.

Lleoliad: Y Bandstand, Aberystwyth (ar y Promenâd). Mae’r lleoliad yn hygyrch i bobl ag anableddau.  

Ar gyfer pwy mae’r gweithdai ‘Pocedi o Falchder’?

Ar gyfer unrhyw un sy’n uniaethu fel rhan o’r gymuned LHDTCRh+ ac sy’n gallu ymrwymo i bob un o’r tri gweithdy creu pyrsiau. Nid oes angen profiad gwnïo na chrefft, a bydd yr holl ddeunyddiau yn cael eu darparu.

Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys lluniaeth ysgafn. Bydd cyfranogwyr yn derbyn taleb £50 (cerdyn rhodd aml-siop) bob wythnos i gydnabod eich cyfraniad.

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a’r wyth person cyntaf i gofrestru bydd yn cael lle.

Sut ydw i’n archebu fy lle?

Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth hon yn ofalus, yna anfonwch e-bost gyda’r pennawd ‘Pocedi o Falchder’ at Carrie: museum@ceredigion.gov.uk

Mae’n bryd rhoi stamp ein cymuned ar gasgliad yr amgueddfa – a gallwch chi fod yn rhan ohono!

Manylion y Gweithdai

SESIWN UN: 21 Chwefror

Beth sy’n bwysig i chi fel person cwiar?

Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio’r hyn sy’n bwysig i chi – y gwerthoedd, y straeon a’r hunaniaethau sy’n eich llunio chi fel person. Trwy ymarferion creadigol, byddwn yn dechrau archwilio’r syniadau a’r ystyron yr ydych am eu mynegi drwy’ch pwrs, poced neu fag bach eich hun, wedi’i greu â llaw.

Bydd curadur yr amgueddfa, Carrie Canham, yn ymuno â ni i roi cyd-destun y prosiect, sydd wedi’i ysbrydoli gan y pyrsiau hanesyddol yn y casgliad presennol. Bydd hi’n rhannu sut y bydd ein creadigaethau yn cyfrannu at yr arddangosfa LHDTCRh newydd.

SESIWN DAU: 28Chwefror

Gwnïo eich ffordd eich hun

Gan weithio gyda’n dwylo a’n calonnau; byddwn yn dewis defnyddiau ac edau, ac yn dechrau torri, gludo, cydosod a phwytho. Gydag arweiniad a chefnogaeth gan Rose a’r grŵp, byddwch yn dod â’ch dyluniad yn fyw.

SESIWN TRI: 7 Mawrth

Pwytho a gorffen

Gan ychwanegu’r cyffyrddiadau terfynol i gwblhau ein pocedi a’n pyrsiau, byddwn yn archwilio ffyrdd o’u harddangos fel rhan o’r arddangosfa yn Amgueddfa Ceredigion, gan ddathlu ein creadigrwydd cwiar. Gyda’n gilydd, byddwn yn myfyrio ar y broses ac yn ei dogfennu gyda ffotograffau a geiriau.

Pwy sy’n hyrwyddo’r gweithdai?

Mae Rose Thorn wedi gweithio fel artist cymunedol mewn lleoliadau iechyd ac addysg; mae’n frwdfrydig dros ddefnyddiau therapiwtig y celfyddydau gyda phobl sy’n aml yn teimlo eu bod wedi’u dadrymuso. Mae ei hymarfer creadigol ei hun wedi canolbwyntio ar decstilau.  

Roedd ei chydweithrediad diweddaraf ag Amgueddfa Ceredigion gyda ‘Voices from the Edge’, grŵp o’r mwyafrif byd-eang a archwiliodd eu hymatebion i wrthrychau trefedigaethol a fenthycwyd gan Amgueddfa Prydain. Daeth y project i ben gydag arddangosfa grŵp, lle’r oedd ei gorchudd wedi’i wnïo â llaw, o’r enw ‘Wake’, yn archwilio symudiad pobl ar draws y moroedd.

Mae Rose hefyd yn berfformiwr a hyfforddwr Theatr Playback, sy’n anrhydeddu straeon personol drwy ‘adlewyrchu’ ar unwaith yr hyn a rennir gan y gynulleidfa. Mae ei diddordeb yn y corff, yr anadl a’r meddwl yn parhau gyda dosbarthiadau ioga lleol y mae hi’n eu dysgu.

Dan drefniant Amgueddfa Ceredigion mewn cydweithrediad ag Aberration

Cefnogir y Gweithdai hyn gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru

====