Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2014 Machynlleth

Cynhelir digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn Machynlleth gan grŵp lleol o fenywod, ‘Rhwydwaith Merched Bro Ddyfi’. Dyma ein rhaglen am y diwrnod:

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2014

International Women’s Day 2014 – English >>

Dydd Sadwrn 8 Mawrth, Clwb Bowlio Machynlleth

Cymraeg

11.30 y.b – 1.30 y.h ‘Rock Up!’
Sesiwn roc i ferched o bob oed – rhowch tro ar chwarae’r drymiau neu’r gitar fel seren roc hefo’r Rock Project. Am ddim.

2 y.h – 3 y.h – Beth mae cydraddoldeb i fenywod yn ei olygu i chi?
Sgwrs bywiog o dan arweiniad Elena Blackmore a Bec Sanderson o’r ‘Public Interest Research Centre (PIRC)’. Dewch i rannu eich syniadau. Merched yn unig. Am ddim.

3.30 y.h – 5 y.h – Blasu’r Gymraeg
Digwyddiad Cymraeg – cyfle i flasu a phrynu bwydydd gan ferched o fusnesau lleol. Croeso i bawb, yn cynnwys dechreuwyr pur. £2 wrth y drws, yn cynnwys paned.

6 y.h – 7 y.h ‘Hold Fast’
Perfformiad arbennig gan gwmni hanes-ar-lafar, ‘Unearthed’. Casgliad o leisiau merched lleol yn sôn am bynciau amrywiol, o lechi i’r enaid. Croeso i bawb. Am ddim.

8 y.h ‘Cabaret’
Noson o gerddoriaeth, comedi a darlleniadau yng nghwmni merched talentog yr ardal, yn cynnwys The Bung Bung Belles, Izzy Rabey, Julie Grady Thomas. Meic agored ar gael hefyd (cysylltwch â Helen Sandler o flaen llaw os am dair munud ar y llwyfan – helensandler@gmail.com)
Croeso i bawb dros 14 oed
£3 wrth y drws (£2 consesiwn, £1 i bobl yn eu harddegau, £8 i roddwyr/cefnogwyr)
Raffl

Ariennir gan Lywodraeth Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (Women’s Equality Network Wales)